[two_third]

Sefydlwyd y “Borders Road Running League”  yn 1983 gan nifer o glybiau rhedeg newydd ar draws Gogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer. Y bwriad oedd cynnig cystadleuaeth rhwng timau o wahanol glybiau oedd yn aelodau, ar sail gystadleuol ac eto yn gyfeillgar. Mae’r athroniaeth yma yn parhau hyd heddiw gyda saith ras bob tymor, yn gyffredinol rhwng Mis Hydref a Mis Ebrill. Mae pob ras rhwng 5 a 6.21 milltir (8 i 10 Km), arwahan i’r ras derfynol sydd tua 4 milltir (6.5 Km).  Mae’r gynghrair yn cynnwys clybiau ar draws Gogledd Cymru, Cilgwrli (Wirral) a Gorllewin Sir Caer. Mae y Gynghrair yn gystadleuaeth rhwng y clybiau yn bennaf, er bod gwobrau ar gyfer unigolion o fewn grwpiau oedran. Mae rasys y Gynghrair yn gyfle i redwyr ar bob lefel gael cystadlu yn rheolaidd, cyfle i brofi eich hun yn erbyn rhedwyr o glybiau eraill sydd ar yr un lefel â chi, gan wella eich perfformiad o fewn maes fforddiadwy ond cystadleuol, sy’n creu a chynnal cyfeillgarwch rhwng unigolion o’r un meddylfryd.  Ar ddiwedd bob ras fe gesglir y sgôr gan y clybiau unigol a’u dychwelyd i Ysgrifennydd y Canlyniadau ar gyfer eu gwirio.  Fe’i cyhoeddir ar wefan Borders League.

 

 

Newyddion diweddaraf Cynghrair y ‘Borders League’

[blog category=”44″ perpage=”5″ pagination=”on” ]
[/two_third]
[one_third last=last]

Digwyddiadau sy’n dod i fyny yng Nghynghrair y ‘Border League’

[upcoming category=”Borders League” count=”7″ place=”1″ time=”1″ ] [/one_third]