[two_third]

Nos Fercher

 

Mae’r Clwb yn cyfarfod bob nos Fercher am 7 o’r gloch, mewn lleoliadau gwahanol yn cynnwys:

Porthaethwy (Ysgol David Hughes neu Four Crosses)
Caergybi. (Holyhead Truck Stop neu Parc Penrhos)
Bodedern (Haf yn unig)
Llangefni. (Farm and Pet Place neu’r Dingl)
Nid oes tâl am y sesiynau yma yng nghanol yr wythnos, ac fe allwch ddarganfod ble fyddwn yn cyfarfod a’r manylion diweddaraf ar ein tudalen Facebook.

 

Nos Lun 

Rydym hefyd yn cynnal sesiwn cyflymdra gyda chyfres o ddriliau i helpu gyda ffurf a thechneg rhedeg dan gyfarwyddyd hyfforddwr cymwysedig. Mae’r sesiynau yma wedi eu cynllunio o flaen llaw, ac yn addas ar gyfer pawb beth bynnag yw eich gallu.
Os ydych am wella eich techneg neu amser rasio mae’r sesiynau hyfforddiant yma yn angenrheidiol.
Cyfarfod ar Nos Lun yn Ysgol Gyfun Llangefni, yn brydlon am 6.30pm.
Croeso i bawb, £1 i aelodau, £2 i bawb sydd ddim yn aelodau.

[/two_third]
[one_third last=last]

Digwyddiad hyfforddi sydd ar y gweill

 

[upcoming category=”training” count=”5″ place=”1″ time=”1″ ] [/one_third]